Siocdonnau

Beth yw Electrotherapi?

Ystyr Electrotherapi yw defnyddio dyfeisiau ynni trydanol meddygol i roi triniaeth. Gall ffisiotherapydd roi electrotherapi, i leihau poen a chyflymu’r broses wella, yn ychwanegol at yr addysg, y presgripsiwn ymarfer corff a thriniaeth â llaw a roddir. Mae gan electrotherapi gyfoeth o ymchwil wyddonol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi ei ddefnydd fel atodiad i wella canlyniadau triniaeth ffisiotherapi safonol.

Dyma’r prif ddulliau electrotherapi a ddefnyddir yng Nghlinig Ffisiotherapi Protec:

Therapi Siocdonnau

Mae therapi siocdonnau, y cyfeirir ati hefyd fel Therapi Siocdonnau Allgorfforol (ESWT), yn driniaeth hynod effeithiol sydd wedi'i phrofi'n glinigol ar gyfer anafiadau cronig a chyflyrau penodol ar yr esgyrn.

Mae siocdonnau allgorfforol yn don pwysedd egni uchel anfewnwthiol sy'n pasio i’r corff trwy stiliwr (probe) llaw. Mae gwrthrych sy'n symud yn gyflym y tu mewn i’r teclyn trin yn trosglwyddo ei ynni i ddarn blaen y teclyn. Mae'r siocdonnau rheiddiol a gynhyrchir yn ymledu ac yn cael eu hamsugno gan y rhan o’r corff y mae angen ei thrin. Mae'r siocdonnau'n achosi cynnydd mewn llid a llif y gwaed i'r rhan a dargedir ac maen nhw’n gallu dadelfennu meinwe creithiog, ffibrog sydd wedi ffurfio dros gyfnod o amser, yn enwedig gyda chyflyrau cronig.

Gall therapi siocdonnau fod yn ddull effeithiol o drin nifer fawr o broblemau cronig. Dyma rai enghreifftiau o gyflyrau lle profwyd bod siocdonnau yn trin symptomau yn effeithiol ac yn gwella symudiad:

Ffasgitis Plantar (poen yng ngwadn y droed)
Epicondylitis Ochrol (Llid ar y penelin)
Tendinitis Padellog (Llid ar y tendon padellog yn y ben-glin)
Tendinitis Achilles (poen yn y sawdl)
Syndrom Poen Trochanterig Mwyaf (poen clun ochrol)
Tendinopathi sy'n deillio o linyn y gar

Mae'n well defnyddio therapi siocdonnau ochr yn ochr â rhaglen adsefydlu gynhwysfawr sydd fel arfer yn dechrau unwaith y bydd y driniaeth siocdonnau wedi'i chwblhau.

Fel arfer cynhelir siocdonnau dros 3-5 sesiwn.

Oherwydd natur arbenigol y ddyfais a'r driniaeth hon, nid yw therapi siocdonnau yn cael ei chynnwys mewn triniaeth Ffisiotherapi arferol a bydd costau ychwanegol yn gysylltiedig â hynny.

Manylion Cyswllt

Cyfeiriad: Tŷ Gwair, Llanwnda, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5SD

Ffôn: 01286 674173

Symudol: 07706995985

E-bost: info@protecphysio.co.uk