Mae aciwbigo yn arfer hynafol sy'n golygu rhoi nodwyddau main ym meinweoedd y corff mewn mannau penodol.
Tarddodd Aciwbigo yn Tsieina dros 2000 o flynyddoedd yn ôl. Mae'n seiliedig ar y cysyniad, ym Meddygaeth Draddodiadol Tsieina (MDT), bod egni – a elwir yn 'qi' (sy'n cael ei ynganu ‘tsi’) – yn rhedeg drwy'r corff ar hyd meridianau neu 'sianeli'. Os yw'r egni hwn yn llifo’n rhwydd ac yn gytbwys, credir y bydd yr unigolyn yn parhau i fod mewn iechyd da. Fodd bynnag, os caiff qi ei rwystro, os amherir arno neu os bydd diffyg cydbwysedd, yna credir y gallai salwch meddwl, emosiynol neu gorfforol ddilyn. Nod aciwbigo yw dylanwadu ar lif neu gydbwysedd qi yn y corff, drwy roi nodwyddau main i ysgogi 'aciwbwyntiau' penodol ar hyd y meridianau, er mwyn cael iechyd da eto.
Archwiliodd ymchwil gwyddonol effeithiolrwydd aciwbigo ar gyfer gwahanol gyflyrau. Mae corff cynyddol o dystiolaeth bod aciwbigo'n effeithiol ar gyfer trin poen. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) yn argymell aciwbigo ar gyfer trin cur pen a achosir gan densiwn (ffynhonnell: NICE 2012) ac ar gyfer Poen Cronig (NICE 2021)
Yn dilyn asesiad gofalus bydd eich arbenigwr yn defnyddio cwrs aciwbigo wedi'i deilwra'n unigol ar gyfer eich symptomau. Fel arfer, bydd triniaeth yn golygu gosod rhwng 2 a 10 o nodwyddau. Nid yw aciwbigo'n boenus, er y gellir profi teimlad fel pigiad pin neu grafiad wrth i'r nodwyddau gael eu gosod. Gellir gosod y nodwyddau am gyn lleied ag ychydig eiliadau, i ychydig funudau, ond yn fwy cyffredin byddant yn aros yn eu lle am hyd at 30 munud.
Bydd pob sesiwn yn cael ei theilwra i'r unigolyn a'i gyflwr penodol. Awgryma ymchwil y gallai fod angen cwrs o chwech i ddeg sesiwn i gael y canlyniadau gorau.
Mae aciwbigo trwy’r glust yn golygu rhoi nodwyddau llawfeddygol di-haint yn y pwyntiau aciwbigo ar y glust allanol. Mae dros 200 o bwyntiau ar y glust sy'n cysylltu â phob rhan o'r corff, felly mae'n ddefnyddiol ar gyfer lleihau symptomau llawer o gwynion megis poen, alergeddau, IBS, straen, diffyg cwsg, dibyniaeth, iselder, meigryn a mwy.
Mae Dafydd yn cynnal grwpiau ymlacio wythnosol yn Nhŷ Gwair ar hyn o bryd, ar gyfer hyd at 5 o bobl, lle bydd sesiynau’n para tua 40 munud. Gall y sesiynau hyn dawelu'r meddwl, cynorthwyo gyda dadwenwyno, hybu ymlacio ac annog ymdeimlad o les corfforol ac emosiynol.
I drefnu apwyntiad neu am drafodaeth bellach ffoniwch neu anfonwch neges destun at Dafydd ar 07537144690 neu e-bostiwch dafyddbulman@outlook.com
Cyfeiriad: Tŷ Gwair, Llanwnda, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5SD
Ffôn: 01286 674173
Symudol: 07706995985
E-bost: info@protecphysio.co.uk