Therapi Tylino

Beth yw therapi tylino?

Wrth dylino defnyddir y dwylo i drin y meinweoedd meddal sy’n ddwfn yn y corff ac ar yr wyneb, i leddfu straen o ddydd i ddydd a thensiwn yn y cyhyrau, lleihau poen, helpu’r corff i wella, ymlacio a hybu lles. Mae'n helpu i gynyddu llif y gwaed ac ocsigen i'r rhannau sy’n cael eu trin a gellir ei ddefnyddio hefyd yn ychwanegol at therapïau eraill i helpu i wella anafiadau i’r cyhyrau.


Defnyddir tylino am amryw o resymau. Mae rhai pobl yn dod am sesiwn dylino meinwe meddal i ymlacio a dadflino, tra bydd eraill yn dewis sesiynau rheolaidd i'w helpu i reoli neu ymdopi â phroblem gorfforol, iechyd meddwl neu broblem emosiynol benodol. Efallai y bydd pobl sy'n gwneud chwaraeon yn cael sesiwn tylino meinwe dwfn neu dylino chwaraeon, cyn neu ar ôl hyfforddi a chystadlu, er mwyn cadw eu corff yn y cyflwr gorau posibl neu drin rhan o’r corff a anafwyd yn ddiweddar i’w helpu i wella.


Mae corff cynyddol o dystiolaeth sy’n awgrymu bod tylino’n gallu bod yn effeithiol wrth helpu i drin rhai cyflyrau cronig, fel ffibromyalgia a phoen yng ngwaelod y cefn. Mewn canllawiau a gynhyrchwyd yn 2016 gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE), argymhellir therapïau llaw - gan gynnwys tylino - fel triniaeth gynnar i reoli poen amhenodol a chyson ar waelod y cefn.

physiotherapy

Beth fydd fy Nhriniaeth yn ei olygu?

Cyn y driniaeth, bydd eich therapydd yn cynnal ymgynghoriad llawn, gan ofyn cwestiynau i chi am eich iechyd a'ch ffordd o fyw, er mwyn gwneud yn siŵr fod y driniaeth yn addas i chi. Mae'r rhan fwyaf o driniaethau tylino sydd ar gael yn Protec yn para 30 munud.


Yn gyffredinol, bydd y driniaeth yn digwydd tra byddwch yn gorwedd ar y gwely triniaeth. Os bydd y therapydd, fel rhan o'r driniaeth, yn tylino'ch croen yn uniongyrchol, fel arfer bydd olew maethlon neu eli tylino yn cael ei ddefnyddio er mwyn hwyluso’r dechneg dylino.


Pa bynnag fath o dylino rydych chi'n ei gael, bydd eich therapydd yn eich cynghori beth i'w ddisgwyl cyn i'r driniaeth ddechrau.

Manylion Cyswllt

Cyfeiriad: Tŷ Gwair, Llanwnda, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5SD

Ffôn: 01286 674173

Symudol: 07706995985

E-bost: info@protecphysio.co.uk