BSc MCSP HCPC
Alison gymerodd drosodd Protec Physio yn 2014 ac rŵan yn gyfarwyddwr y practis ac yn Uwch Ffisiotherapydd. Mae ganddi dros 30 mlynedd o brofiad mewn asesu a thrin anhwylderau cyhyrysgerbydol cyffredinol. Mae gan Alison ddiddordeb arbennig mewn anhwylderau cyhyrysgerbydol cronig, problemau sy’n gysylltiedig â thraul a gwisgo, a Ffisiotherapi Iechyd Galwedigaethol, ac mae hi’n arwain y gwasanaeth ffisiotherapi ar gyfer ein contractau Iechyd Galwedigaethol. Mae Alison yn darparu sesiynau ffisiotherapi ym Mhorthmadog, yn ogystal â chynnal nifer o glinigau Iechyd Galwedigaethol ar safle ar gyfer sefydliadau mawr.
BSc MCSP HCPC
Mae Fflur yn Ffisiotherapydd profiadol a raddiodd yn 2008 o Brifysgol Salford. Treuliodd 15 mlynedd yn gweithio o fewn y GIG gan feithrin profiad clinigol helaeth ar draws amrywiaeth eang o gyflyrau cyhyrysgerbydol cyn symud i Protec yn llawn amser.
Gyda chefndir cryf ym maes chwaraeon, mae gan Fflur ddiddordeb arbennig mewn adsefydlu chwaraeon.
Yn ymrwymedig i ddatblygiad proffesiynol parhaus, mae Fflur wedi cwblhau nifer o gyrsiau ôl-raddedig i allu cynnig triniaethau arbenigol, gan gynnwys asesiadau rhedeg manwl ac aciwbigo. Mae hi hefyd yn hyfforddwraig Pilates Mat a Reformer gymwys, ac yn brif hyfforddwraig Pilates yn Protec, gan integreiddio egwyddorion Pilates yn ei dull triniaeth i gefnogi cryfder, rheolaeth ac atal anafiadau.
Cymhwysodd Owain, sy’n lleol i Borthmadog, o Brifysgol Keele yn 2017 ac ers hynny mae wedi bod yn gweithio i Ymddiriedolaeth GIG Betsi Cadwaladr ac mae bellach yn arbenigo mewn cleifion allanol cyhyrysgerbydol, orthopaedeg ac anafiadau chwaraeon.
Mae gan Owain angerdd am adsefydlu, gan ei fod wedi cael sawl anaf ei hun, felly mae’n deall heriau cyflyrau acíwt a pharhaus.
Mae mam Fflur, Wena, yn rhoi cymorth a chefnogaeth weinyddol i ni ac mae'n bosibl mai gyda hi y byddwch chi'n siarad ag yn gyntaf os ydych wedi cael eich cyfeirio atom gan eich Cyflogwr.
Fe gaeth Megan ei chymhwyster mewn Ffisiotherapi yn 2019, ac mi ymunodd a thim Protec yn 2022. Mae Megan yn angerddol am drin anafiadau ac yr unigolyn gyda dull cyfannol. Mae Megan hefyd yn mwynhau hyrwyddo ffordd o fyw iach ac yn hoffi gosod a dangos esiampl i'w chleifion!

Graddiodd Tim gyda Rhagoriaeth yn 2021 o Ddiploma Ôl-raddedig mewn Ffisiotherapi Prifysgol Bangor. Mae Tim yn ddringwr creigiau brwd ac mae’n deall sut mae hi i gael anaf. Mae ganddo angerdd dros helpu pobl i ddychwelyd at wneud yr hyn maen nhw’n ei garu fwyaf, boed hynny’n ddringo neu unrhyw gamp neu weithgaredd awyr agored arall. Mae Tim yn credu mewn grymuso pobl i hunanreoli a chymryd rheolaeth o’u hanaf neu eu problem.
Cyfeiriad: Tŷ Gwair, Llanwnda, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5SD
Ffôn: 01286 674173
Symudol: 07706995985
E-bost: info@protecphysio.co.uk