Mae ffisiotherapi yn helpu i adfer symudiad a gweithrediad pan fydd poen, anaf, salwch neu anabledd yn effeithio ar rywun.
Mae ffisiotherapi yn broffesiwn gofal iechyd sy'n seiliedig ar radd ac yn cymryd agwedd 'unigolyn cyfan' at iechyd a lles. Yn ganolog i hyn, mae’r claf yn cymryd rhan yn ei ofal ei hun, trwy addysg, ymwybyddiaeth, grymuso a rhan yn ei driniaeth.
Gallwch elwa o ffisiotherapi ar unrhyw adeg yn eich bywyd. Mae ffisiotherapi yn helpu i drin poen cefn neu anaf sydyn, rheoli cyflyrau hirdymor fel poen parhaus neu lid y cymalau (arthritis), ac wrth baratoi ar gyfer llawdriniaeth neu ddigwyddiadau chwaraeon ac wrth wella ar ôl llawdriniaeth neu ddigwyddiad chwaraeon.
Mae ffisiotherapyddion wedi'u hyfforddi i asesu, rhoi diagnosis a thrin amrywiaeth o gyflyrau sy'n effeithio ar weithrediad corfforol unigolyn. Mae ffisiotherapyddion yn defnyddio eu gwybodaeth a'u sgiliau i wella ystod o gyflyrau a all fod yn cael effaith ar iechyd.
Gall ffisiotherapi fod yn arbennig o fuddiol wrth helpu gyda:
Nid oes angen cyfeiriad gan Feddyg Teulu neu Feddyg Ymgynghorol ar gyfer hunangyfeiriad at y Gwasanaeth Ffisiotherapi.
Byddwch yn cael eich gweld gan aelod o'r tîm Ffisiotherapi yn ystod eich apwyntiad cyntaf.
Bydd y therapydd yn trafod y rheswm dros eich cyfeiriad gyda chi. Gofynnir cwestiynau i chi am sut mae eich problem yn effeithio arnoch chi yn ogystal â'ch iechyd a'ch ffordd o fyw yn gyffredinol.
Bydd archwiliad corfforol yn dilyn hyn er mwyn pennu beth allai fod yn gyfrifol am eich symptomau.
Ar ddiwedd yr asesiad, bydd y ffisiotherapydd yn egluro ei ganfyddiadau gyda chi ac yn trafod cynllun gweithredu arfaethedig gan gynnwys yr angen am unrhyw apwyntiadau pellach. Rhoddir pob cyfle i chi ofyn cwestiynau.
Bydd y ffisiotherapydd yn cytuno ar nodau derbyniol gyda chi ac yn trafod y camau mwyaf priodol i'w cymryd. Gall hyn fod yn gyngor ac ymarferion i’w gwneud gartref, cyfnod o driniaeth yn y practis neu gyfeiriad at wasanaeth arall.
Bydd triniaeth ffisiotherapi bob amser yn cynnwys cyngor ar gyflwr ac addysg, adsefydlu wedi'i dargedu a phresgripsiwn o ymarfer corff. Yn dibynnu ar natur y broblem, gall triniaeth hefyd gynnwys therapi â llaw fel tylino, symud a thrin y corff, aciwbigo neu electrotherapi i ysgogi'r broses gwella.
Yn Protec rydym yn ymfalchïo mewn cynnig y technolegau diweddaraf i'n cleifion i'ch helpu i gyflawni eich canlyniadau.
I greu eich presgripsiwn o ymarfer corff wedi'i deilwra, rydym yn defnyddio meddalwedd gan PhysiTrack , sy'n darparu fideos o ansawdd uchel i chi eu gwylio a'u lawr lwytho.
Gall ffisiotherapi helpu gyda phroblemau ymataliaeth, llithriad a chamweithrediad llawr y pelfis. Gall ein Ffisiotherapyddion Arbenigol Iechyd y Pelfis, Lizzie a Faye sy’n ymweld â Protec ddarparu asesiadau i ddeall pa ffactorau sy'n cyfrannu at y problemau a byddant yn datblygu cynllun triniaeth wedi'i deilwra. Gall triniaeth gynnwys rhaglen cryfhau, technegau i wella'ch symptomau, cyngor ar ffordd o fyw a llawer o dawelwch meddwl. Bydd copi digidol o'ch cynllun triniaeth yn cael ei ddarparu i chi. Gellir argymell apwyntiadau dilynol fel y nodir.
Gellir gwneud apwyntiad i weld Ffisiotherapydd Iechyd y Pelfis yma
Cyfeiriad: Tŷ Gwair, Llanwnda, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5SD
Ffôn: 01286 674173
Symudol: 07706995985
E-bost: info@protecphysio.co.uk