Polisi Cwcis

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gwahaniaethu rhyngoch chi a defnyddwyr eraill. Trwy ddefnyddio cwcis, gallwn ddarparu gwell profiad i chi a gwella ein gwefan trwy ddeall yn well sut rydych chi'n ei defnyddio. Darllenwch y Polisi Cwcis hwn yn ofalus a gwnewch yn siŵr eich bod yn ei ddeall.

Ffeiliau testun yw cwcis gyda darnau bach o ddata a ddefnyddir i adnabod eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol pan fyddwch yn ymweld â gwefan. Mae'r data sy'n cael ei storio mewn cwci yn cael ei greu gan y gweinydd wrth i chi gysylltu. Mae'r data hwn yn cael ei labelu ag ID sy'n unigryw i chi a'ch cyfrifiadur.

Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis er mwyn gweithio'n fwy effeithlon, yn ogystal ag i ddarparu rhywfaint o wybodaeth i ni am eich defnydd o'n gwefan. Mae cwcis yn dweud wrthym ni sut mae defnyddwyr yn rhyngweithio â'n gwefan. Gallant ddweud wrthym sut y daethoch i mewn i'r wefan, sut y gwnaethoch lywio trwy'r wefan a pha wybodaeth a dogfennau a oedd o ddiddordeb i chi. Yna, byddwn ni’n defnyddio'r wybodaeth hon i wella ein gwefan.

Mae'r cwcis rydym ni'n eu rhoi ar eich dyfais yn dod o fewn y categorïau canlynol:

Cwcis Sesiwn – cwcis dros dro sy’n dod i ben pan fyddwch chi'n cau'ch porwr

Cwcis Cyson – mae gan y cwcis hyn ddyddiad dod i ben diffiniedig. Dim ond pan fyddant yn dod i ben y bydd y porwr yn eu dileu.

Cwcis Perfformiad – mae’r rhain yn casglu gwybodaeth am y ffordd yr ydych chi'n defnyddio ein gwefan, er enghraifft pa dudalennau rydych chi'n ymweld â nhw amlaf. Nid yw'r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy amdanoch chi.

Cwcis Tracio Dienw – gallwn dracio eich defnydd o'r wefan heb gasglu eich data personol.

Cwcis Parti Cyntaf – mae’r rhain yn gwcis sy'n cael eu rhoi ar eich dyfais yn uniongyrchol gan y wefan rydych chi'n ymweld â hi.

Cwcis Trydydd Parti – mae’r rhain yn gwcis sy'n cael eu rhoi ar eich dyfais gan drydydd parti fel system ddadansoddi.

Mae'r hyn y mae'r cwcis yn ei wneud wedi'i nodi yn y tabl isod.

Enw’r Cwci Disgrifiad
__utma, __utmb, __utmc, __utmc, ga, gat, gid

Google Analytics: Rydym ni’n defnyddio Google Analytics i fonitro lefelau traffig, ymholiadau chwilio ac ymweliadau â'r wefan hon.
Mae Google Analytics yn storio cyfeiriad IP yn ddienw ar ei weinyddion yn yr Unol Daleithiau, ac nid yw CIVIC na Google yn cysylltu'ch cyfeiriad IP ag unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy.

Mae'r cwcis hyn yn galluogi Google i benderfynu a ydych chi'n dychwelyd i'r wefan, ac i olrhain y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw yn ystod eich sesiwn.

Dim ond ar ôl i'r defnyddiwr roi caniatâd i ni ddefnyddio cwcis y gosodir y cwcis hyn.

civicAllowCookies,
civicShowCookieIcon,

Necessary, analytics

Cwcis Rheoli Cwcis. Caiff y cwcis hyn eu gosod er mwyn cofio dewisiadau mewn perthynas â chwcis.


Caniatâd i ddefnyddio cwcis

Byddwn yn gofyn am eich caniatâd i roi cwcis neu dechnolegau tebyg eraill ar eich dyfais, ac eithrio pan fo'r rhain yn hanfodol i ni ddarparu gwasanaeth yr ydych wedi gofyn amdano.

 

Manylion Cyswllt

Cyfeiriad: Tŷ Gwair, Llanwnda, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5SD

Ffôn: 01286 674173

Symudol: 07706995985

E-bost: info@protecphysio.co.uk